Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 9 Gorffennaf 2014 i'w hateb ar 16 Gorffennaf 2014

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Gofyn i'r Gweinidog Cyllid

 

1. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog roi'r diweddariad ar weithredoedd Llywodraeth Cymru i ariannu prosiectau cyfalaf? OAQ(4)0445(FIN)W

 

2. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar sicrhau effeithiolrwydd gwariant ar draws cyllideb Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0444(FIN)

 

3. Julie James (Gorllewin Abertawe): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y trafodaethau gyda'r Comisiwn Ewropeaidd am y rhaglenni cronfeydd strwythurol? OAQ(4)0434(FIN)

 

4. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru ? OAQ(4)0439(FIN)

 

5. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar fuddsoddiad cyfalaf ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)0446(FIN)

 

6. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fuddsoddiad cyfalaf yn y rhanbarth Dwyrain De Cymru? OAQ(4)0443(FIN)

 

7. Mick Antoniw (Pontypridd):  A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gylch ariannu nesaf Cronfeydd Strwythurol yr UE? OAQ(4)0438(FIN)

 

8. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ba mor ddigonol yw'r gyllideb gyffredinol a ddyrennir i'r portffolio Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol? OAQ(4)0435(FIN)

 

9. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau gwerth am arian ar draws holl adrannau Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0432(FIN)

 

10. Ann Jones (Dyffryn Clwyd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei chyfarfod diwethaf gyda Gweinidogion Trysorlys EM? OAQ(4)0433(FIN)

 

11. Gwyn Price (Islwyn):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen Buddsoddi i Arbed? OAQ(4)0436(FIN)

 

12. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn ei gymryd i sicrhau tryloywder ym mhroses gyllidebol Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0441(FIN)W

 

13. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y gronfa Buddsoddi i Arbed? OAQ(4)0431(FIN)

 

14. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y dyraniad yn y gyllideb i gwrdd â chyfrifoldebau amgylcheddol Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0440(FIN)

 

15. Alun Ffred Jones (Arfon):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y gostyngiad yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ers dechrau'r Cynulliad hwn? OAQ(4)0437(FIN)W

 

Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

 

1. Mark Isherwood (Gogledd Cymru):A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae cyd-gynhyrchu yn cael ei ddefnyddio wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru? OAQ(4)0456(LG)

 

2. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)0452(LG)

 

3. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y setliad llywodraeth leol ar gyfer 2015/16? OAQ(4)0451(LG)

 

4. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa arbedion y mae'r Gweinidog yn disgwyl eu cronni drwy uno cynghorau yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf? OAQ(4)0446(LG)W

 

5. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar awdurdodau lleol yn codi tâl am wasanaethau? OAQ(4)0442(LG)

 

6. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yn Sir Drefaldwyn? OAQ(4)0448(LG)

 

7. Aled Roberts (Gogledd Cymru):A wnaiff y Gweinidog amlinellu beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu awdurdodau lleol i sefydlu parthau dim galw digroeso yng Nghymru? OAQ(4)0447(LG)W

 

8. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar effaith y cynllun rhyddhad treth gyngor ar gyllidebau awdurdodau lleol? OAQ(4)0449(LG)W

 

9. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag awdurdodau lleol ynghylch trefniadau ariannu? OAQ(4)0450(LG)W

 

10. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar wariant llywodraeth leol yng Nghymru? OAQ(4)0454(LG)W

 

11. Christine Chapman (Cwm Cynon):Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella diogelwch cymunedol yng Nghwm Cynon? OAQ(4)0455(LG)

 

12. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gynigion Llywodraeth Cymru i ddiwygio llywodraeth leol yng Nghymru? OAQ(4)0445(LG)

 

13. Mick Antoniw (Pontypridd):  A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y fformiwla ar gyfer dosbarthu cyllid i lywodraeth leol? OAQ(4)0443(LG)

 

14. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gydweithrediad gwasanaethau cyhoeddus yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)0457(LG)

 

15. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn perthynas â'r dreth gyngor? OAQ(4)0459(LG)

 

Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad

 

1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau mae’r Comisiwn yn cymryd I gynnal diddordeb pobl ifanc yn waith y Cynulliad? OAQ(4)0084(AC)W